top of page

Hyfforddiant .

Bydd defnyddio'r peiriant cywir yn y modd cywir bob amser yn rhoi perfformiad glanhau eithriadol.

Dyna pam 'rydym yn rhoi hyfforddiant yng nghalon ein busnes, ac mae'n un rheswm pam bod ein cwsmeriaid yn dychwelyd atom dro ar ôl tro.

Mae ein haseswyr NVQ hyfforddedig yn hapus i ddarparu hyfforddiant ar-lein, yn ein hadeilad neu yn eich adeilad chi. Gallwn gynnig ardystiad os bydd angen.

P'un a ydych yn prynu o'r ystafell arddangos neu ar-lein, gallwch dderbyn lefelau eithriadol o hyfforddiant fel y gallwch fod yn hollol hyderus o'ch pryniant!

Gwasanaeth personol wrth berson proffesiynol .

Mae gwerthu rhyw flwch yn gallu bod yn hawdd…ond dydyn ni ddim yn teimlo mai dyma'r ffordd orau na chywir i werthu pan yn gwerthu ein peiriannau a'n offer.


Rydym yn darparu hyfforddiant wyneb i wyneb am ddim gyda phob gwerthiant lleol a gallwch ddisgwyl yr un ymroddiad ar gyfer gwerthu ar-lein hefyd. P'un a ydych chi'n dod i'n hystafell arddangos neu'n archebu ar-lein, rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad 5 seren.

Sioe fasnach

Mae sicrhau eich bod chi a'ch tîm yn cael yr hyfforddiant gorau yn hanfodol bwysig am lawer o resymau!

♦ Byddwch chi a'ch tîm yn cael eich hyfforddi nid yn unig ar sut i ddefnyddio'r peiriannau'n effeithiol, ond hefyd, sut i gael y gorau ohono.

♦ Byddwch yn dysgu sut i gynnal a chadw eich peiriant a'i gadw i redeg cyhyd â phosibl heb achosi difrod iddo.

♦ Byddwch yn deall holl nodweddion diogelwch eich peiriant, gan eich cadw yn reolwr penigamp bob amser.

♦ Bydd deall sut i ddefnyddio'ch peiriant yn iawn yn lleihau costau gwasanaeth a chynnal a chadw ar gyfer y dyfodol, a byddwn yn sicrhau eich bod yn gwybod yn union y maint cywir o gemegau sydd angen i chi eu defnyddio i siwtio'ch peiriant fel y gallwch arbed costau nwyddau traul .

Bydd pob pryniant ar-lein trwy ein gwefan yn gymwys i gael mynediad at yr adnoddau hyfforddi ar-lein ar gyfer y cynnyrch hwnnw. Mae hyn yn cynnwys fideos hyfforddi pwrpasol, dogfennau, canllawiau a mwy. Unwaith y byddwch wedi treulio hynny i gyd, gallwch ddod yn hyfforddwr eich hun a throsglwyddo'ch gwybodaeth werthfawr newydd i'ch tîm a'ch cydweithwyr!

"I gyd am ddim?!", Rydyn ni'n eich clywed chi'n gofyn!

Ie, i gyd am ddim, oherwydd dyna addewid Cotton & Sons!

Edrychwch ar ein tudalen gweithdrefn gwarantau i gael mwy o fanylion am bwysigrwydd gofalu am eich peiriannau!

'Rydym yma i chi .

A oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein darpariaeth hyfforddiant, neu eisiau gwybod mwy am y wasanaeth y byddwch yn ei dderbyn gennym cyn i chi brynu? Rydym bob amser yn hapus i sgwrsio â chi, felly cysylltwch â ni nawr gan ddefnyddio ein tudalen gyswllt !

bottom of page